Aseiniad

Dyddiad cau: Gweler y fersiwn Saesneg o'r tudalen hwn.

Mae 2 cydran i'r aseiniad hwn:

  • Ysgrifennwch fersiwn eich hun o {{root}}/cy/other/concepts/ gydag esboniad byr a'r allbwn disgwyliedig.
  • Ysgrifennwch bapur ymchwil tair tudalen ar bwnc mathemategol. Rhaid ysgrifennu'r adroddiad yn LaTeX a rhaid defnyddio agweddau rhaglenni (Python) i dangos y pwnc penodol.

Ar gyfer y papur ymchwil anogir i chi dewis eich pwnc eich hunain, os ydych chi yn gwneud hwn argymhellir i chi gwirio gyda fi (Vince Knight) bod y pwnc yn briodol.

Meini prawf marcio

Defnyddir y cynllun marcio canlynol:

Bydd cyflwyno rhestr gywir o enghreifftiau, esboniadau ac allbynnau disgwyliedig yn rhoi marc pasio o 40%.

Os ydych hefyd yn dewis cynnwys cyflwyno'r papur ymchwil, y cynllun marcio bydd:

  • Cod (50% o bwys)
    • 50%: Defnyddiwyd cod priodol gyda'r cysyniadau a ddysgir yn y taflenni lab.
    • 70%: Defnyddiwyd cod o'r taflenni lab er mwyn dangos cysyniadau yn glir.
    • 90%: Mae'r cod a defnyddiwyd yn gyfuniad o'r cod a ddysgir yn y dosbarth a chod a archwiliwyd yn unigol. Defnyddir hwn i esbonio cysyniadau yn glir mewn ffordd wreiddiol.
  • Cynnwys (25% o bwys)
    • 50%: Mae'r cynnwys yn gywir ac agweddau o'r pwnc wedi'u hesbonio.
    • 70%: Mae’r cynnwys yn gywir a chafodd bach o ymchwil ei wneud (wedi'i gyfeirio'n gywir) i dangos agweddau diddorol y pwnc.
    • 90%: Mae'r pwnc a ddewiswyd yn wreiddiol, wedi'i ymchwilio'n drylwyr, ac mae dealltwriaeth fawr wedi ei ddangos.
  • Cyflwyniad (20% o bwys)
    • 50%: Cafodd y gwaith ei ysgrifennu'n dda ond gyda bach neu dim o gynnwys graffigol, ac mae hefyd yn cynnwys camgymeriadau sillafu a gramadeg.
    • 70%: Cafodd y gwaith ei ysgrifennu'n dda gyda rhai graffiau a delweddau a man camgymeriadau sillafu a gramadeg.
    • 90%: Mae'r gwaith yn glir, wedi'i chyfeirio'n gywir, yn fathemategol trylwyr gyda graffiau a delweddau o ansawdd gwych, a does dim camgymeriadau sillafu na gramadeg.
  • Gwaith lab (5%)
    • 100%: Cyfraniad unigol o syniadau'r prosiect, datrys problemau, a thrafodaethau a chwestiynau o werth.

Ar gyfer y papur ymchwil, rhaid cynnwys holl god rydych eisiau cael ei ystyried am farciau o fewn y cyfyngiad 3 tudalen.

Cyflwyno

I gyflwyno'r gwaith byddwch yn defnyddio learning central. Canfyddwch y modiwl “MA1003 Computing For Mathematics“, o fewn hwnna canfyddwch y ffolder “Assessment” ac yna'r eitem “Computing For Mathematics: Individual Coursework”. Yna cliciwch ar “View/Complete” a dilynwch y cyfarwyddiadau. Gweler fideo yma sy’n dangos sut i gyflwyno'r gwaith: https://vimeo.com/114969438.

Rydych yn cyflwyno un pdf (ar gyfer pob cydran) nid y ffynhonnell LaTex neu unrhyw notebooks Jupyter.

Byddwch yn cyflwyno’r gwaith yn y ffordd yma gan fod “Turnitin” yn gynnyrch a phrynwyd gan y Brifysgol sy'n gwirio am lên-ladrad.

DYMA'CH UNIG SIAWNS I GYFLWYNO GWAITH: PEIDIWCH ADAEL Y CYFLWYNO NES Y MUNUD OLAF. OS NAD YDYCH YN CYFLWYNO BYDDWCH YN ENNILL MARC O 0.


In [ ]: