Weithiau yn y dosbarth byddwch yn fy ngweld yn defnyddio estyniad Jupyter o'r enw nbtutor
i helpu delweddu beth sy'n digwydd.
Os hoffwch chi ddefnyddio nbtutor
eich hun mae angen ei osod.
I wneud hwn:
teipiwch y canlynol:
pip install nbtutor
gwasgwch Enter
ac fe ddylai lawrlwytho.
Yn Jupyter, rhowch y canlynol mewn cell i lwytho nbtutor
: %load_ext nbtutor
In [1]:
%load_ext nbtutor
Yna i'w ddefnyddio ar unrhyw gell: %%nbtutor
. Dyma enghraifft:
In [2]:
%%nbtutor
cumulative_sum = 0
for i in range(10):
cumulative_sum += i
Bydd hwn yn arddangos amgylchedd rhyngweithiol sy'n edrych fel y llun canlynol:
Gallwch chi glicio ar next
i gamu trwy'r cod tra ei bod yn delweddu beth y mae'n ei wneud, gallwch hefyd newid y bocs opsiwn o Memory
i Timeline
.
Memory
: yn dangos beth sydd gan Python yn ei chof a pa gyfeirgwn sydd gan Python yn ei chof a beth y mae'r cyfeirgwn hynny yn cyfeirio atynt ar y pryd;Timeline
: yn dangos yr amryw o wrthrychau dros amser.Os hoffwch ddarllen y ddogfennaeth ar gyfer nbtutor
gallwch ei weld fan hyn: https://nbtutor.readthedocs.io/en/
In [ ]: