Cyfrifiadureg ar gyfer Mathemateg: Cyflwyniad i'r cwrs

Bydd y cwrs yma yn trafod yr agweddau canlynol o raglenni cyfrifiadurol:

  • Cyflwyniad i gysyniadau sylfaenol rhaglenni gan ddefnyddio Python
  • Trosolwg o gysyniadau penodol sy'n berthnasol i fathemateg

Mae holl ddeunyddiau'r cwrs ar gael yn http://vknight.org/cfm/. Fe allwch ddod i hyd i'r ffeiliau ffynhonnell sy'n creu'r wefan yna yn http://github.com/drvinceknight/cfm/.

Nodiadau cwrs

Mae nodiadau'r cwrs ar ffurf taflenni lab, ac maent i gyd ar gael i chi. Ysgrifennir y rhain yn defnyddio notebooks Jupyter (offeryn byddwch chi'n defnyddio eich hun). Byddwch yn gweld mathemateg ac esboniadau yn ogystal â chod cyfrifiadur. Er enghraifft dyma god sy'n codi $2$ i bŵer $10$:


In [1]:
2 ** 10


Out[1]:
1024

Strwythur y cwrs yw 3 awr o amser cyswllt:

  • Cyfarfod "cyn" y dosbarth: byddwn yn trafod a dangos cysyniadau byddwch yn dysgu yn yr wythnos yna.
  • Y sesiwn lab: mae gennych chi'r cyfle i gael adborth a gofyn cwestiynau am y taflenni lab.
  • Cyfarfod "ar ôl" y dosbarth: byddwn yn trafod unrhyw anawsterau potensial ac yn ailddatgan eich dealltwriaeth trwy weithgaredd dosbarth.

Mae'r daflen lab yn cynnwys ymarferion opsiynol, ac mae datrysiadau ar gael yn y notebooks rydych yn gallu lawrlwytho o'r wefan dosbarth. Awgrymir i chi gweithio trwy'r ymarferion yna heb edrych ar y datrysiadau. Gallwch ofyn am adborth yn y sesiynau lab a byddaf i'n mynd dros ddatrysiadau penodol yn y cyfarfod dosbarth os oes angen.

Nodwch fod y dosbarth yma yn gofyn i chi gweithio ar gynnwys y cwrs tu allan i'r amser cyswllt. Ni fyddaf yn mynd dros y taflenni lab yn uniongyrchol felly awgrymir i chi wneud hwnna yn amser eich hun. Ar unrhyw adeg mae croeso i chi edrych ar fy nodiadau personol ar gyfer y cyfarfodydd byddwn ni'n cynnal: http://vkcfm.readthedocs.io/

Os hoffwch wybodaeth ar fy ymagwedd addysgol: gallwch ddod o hyd i fy "athroniaeth dysgu" fan hyn: https://vknight.org/tch-phi/

Mae'n bosib bydd nodiadau'r cwrs yn newid: ar gyfer pethau fel typos ac eglurhad, gwesteia’r nodiadau yma yn agored ar github ac os oes diddordeb gallwch weld rhestr o’r holl newidiadau fan hyn: https://github.com/drvinceknight/cfm/commits/master

Gosod meddalwedd

Mae yna nifer o ddosbarthiadau o Python, a fyddwn ni'n defnyddio Anaconda sy'n dod gydag amrywiad o offerynnau defnyddiol (gan gynnwys y notebooks soniais amdanynt uchod).

I'w osod ar eich peiriant personol dilynwch y camau hyn:

  1. Ewch i'r wefan yma: https://www.anaconda.com/download/.
  2. Adnabyddwch a lawrlwythwch y fersiwn o Python 3 ar gyfer eich system weithredu (Windows, Mac OSX, Linux). Rhedeg yr osodwr.

Byddwn yn defnyddio notebooks Jupyter sy'n rhedeg tu fewn i'r porthwr we. I agor gweinydd lleol ffeindiwch y porthwr Continuum a chliciwch ar Jupyter. Does dim angen cael cysylltiad i'r we er mwyn defnyddio hwn.

Mae'r fideo yma yn dangos demo o ddefnyddio notebook.

Technoleg yn y dosbarth

Defnyddiwch pa bynnag adnoddau sydd angen arnoch i fod yn llwyddiannus yn y dosbarth. Gadewch i fi wybod os oes angen help gydag unrhyw beth.

Fel arfer bydd gweithgareddau yn y dosbarth yn cynnwys ysgrifennu cod: os oes gennych liniadur gallwch ei ddefnyddio ond nid yw'n hanfodol.

Oriau swyddfa

Byddaf yn cynnal 2-3 awr yr wythnos ar gyfer oriau swyddfa, yn ystod rhain gallwch ddod i gael cymorth. Dewisir yr oriau penodol ar y cyd fel dosbarth yn y cyfarfod dosbarth cyntaf.

Aseiniad

Mae'r modiwl yma wedi'i asesu gan ddarn o waith cwrs unigol. Ar ôl wythnos 7, hwn fydd prif ffocws y gwaith.


In [ ]: